Ffermio Cymru:
Tyfu Ymlaen

Maniffesto Etholiad y Senedd 2026

Rhagair y Llywydd

Rwy'n falch iawn i rannu maniffesto Etholiad Senedd 2026 NFU Cymru gyda chi, dogfen sy'n cynnwys cyfres o ofynion beiddgar ac uchelgeisiol i'r rhai a fydd yn eistedd yn y Senedd nesaf a'r rhai a fydd yn ffurfio'r llywodraeth newydd.

Mae'r egwyddorion a gyflwynir dros y ddwy dudalen nesaf yn gosod allan gweledigaeth Tyfu Ymlaen yr undeb ar gyfer cefnlen bolisi sy'n cefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, lles uchel, sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd. Yn ychwanegol at hyn, mae cyflawni'r rôl graidd hon yn cael ei hategu gan gynnal a gwella ein hamgylchedd ffermio a'n golygfeydd ysblennydd.

Mae amaethyddiaeth Cymru yn ddiwydiant sy'n darparu twf a manteision nid yn unig i'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad, ond i Gymru gyfan. Mae'r sgiliau a'r wybodaeth a feithrinwyd dros genedlaethau ar ein ffermydd teuluol gwledig yn darparu'r cynhwysion crai cynaliadwy sy'n gonglfaen llwyddiant diwydiant bwyd a diod Cymru, sector sydd â throsiant o fwy na £9.3 biliwn.

At ei gilydd, mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn cyflogi 228,500 o bobl – tua 17% o weithlu Cymru. Nid yw'r rhai y mae eu hincwm a'u gwariant yn dibynnu ar ddiwydiant amaethyddol ffyniannus Cymreig yn byw ar ffermydd Cymru yn unig, ond maent yn byw ac yn gweithio mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled y wlad.

Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd sydd ar ddod a'r seithfed Senedd ddilynol, mae NFU Cymru wedi'i ysgogi gan weithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr gwleidyddol o bob rhan o'r sbectrwm i helpu'r diwydiant i gyflawni ei uchelgeisiau a gwireddu ymhellach ei botensial yn y dyfodol. Rwy'n falch bod NFU Cymru yn parhau i roi llwyfan i'w Grŵp Datblygu'r Genhedlaeth Nesaf – criw o ffermwyr ifanc brwdfrydig o bob cwr o Gymru a fydd yn helpu i lunio blaenoriaethau polisi a dyheadau'r undeb. Yr unigolion diwyd hyn – a'u cymheiriaid o bob cwr o Gymru – a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ynghyd â chyflawni dros yr amgylchedd, yr economi, ein diwylliant a'n hiaith, a hynny i gyd wrth fynd i'r afael yn weithredol ag effeithiau newid hinsawdd. Dylai helpu'r ffermwyr gweithgar hyn i gyflawni'r buddiannau cymdeithasol lluosog hyn fod yn flaenoriaeth i ni i gyd.

O 2026 ymlaen, bydd y Senedd yn cael ei hehangu i fod yn  deddfwrfa 96 sedd, gydag ASau yn cael eu hethol ar sail gyfrannol yn unig. Efallai ychydig o ffermydd fydd yn rai o 16 etholaeth newydd y Senedd, ond bydd pob etholaeth, fodd bynnag, yn gartref i lawer o drigolion sy'n gweithio o fewn cadwyn gyflenwi bwyd a ffermio Cymru. Yr hyn sydd heb amheuaeth yw y bydd mwyafrif llethol yr etholwyr hynny yn dibynnu ar ffermwyr Cymru am y bwyd maen nhw'n ei fwyta.

Rhwng nawr a'r etholiad ym mis Mai 2026 byddwn yn ymgysylltu ag ymgeiswyr ar draws pob plaid wleidyddol a, thu hwnt i hynny, gyda'r rhai sy'n ddigon ffodus i sicrhau seddi ym Mae Caerdydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd i gyflawni ein huchelgeisiau.

Aled Jones, Llywydd NFU Cymru

A photo of Aled Jones, NFU Cymru President

Ein gofynion

Picture of productive farmland with hedges and trees

Strategaeth gynhwysfawr o’r Fferm i’r Fforc

Gan gydnabod y rôl sylfaenol mae ffermio a chynhyrchu bwyd yng Nghymru yn chwarae yn ein heconomi, yr heriau sy’n wynebu cynhyrchu bwyd yn fyd-eang a’r ansefydlogrwydd gwleidyddol a gwrthdaro yn Ewrop a thu hwnt, mae NFU Cymru yn galw am ddatblygu strategaeth o’r Fferm i’r Fforc gynhwysfawr gyda thargedau uchelgeisiol yn cael eu cefnogi gan bolisïau a strategaethau ar gyfer tyfu’r sector bwyd a ffermio yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy. Strategaeth i ddiogelu’r cyflenwad parhaus o fwyd diogel, sydd o safon uchel ac sy’n fforddiadwy o Gymru.

Polisïau amaethyddol sy’n sylfaen i fwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau

Mae NFU Cymru yn glir y dylai dyfodol polisi amaethyddol fod yn  sylfaen i gynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd ffermio, ein cymunedau, ein tirwedd, ein hiaith a’n diwylliant ar gyfer ein cenhedlaeth ni a rhai fydd yn dilyn ôl ein traed. Mae’n rhaid i lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod polisïau’n cefnogi buddsoddiad ar ffermydd ac yn darparu o leiaf yr un lefel o sefydlogrwydd i fusnesau fferm, ein cymunedau gwledig a’r gadwyn gyflenwi ag y mae’r Cynllun Tâliad Sylfaenol wedi’i wneud. 

Cyllideb aml-flynyddol wedi’i chlustnodi i gefnogi twf cynaliadwy bwyd a ffermio yng Nghymru

Mae’n rhaid i’r llywodraeth nesaf ymrwymo i ddarparu cyllideb sydd wedi’i chlustnodi, ac yn aml-flynyddol er mwyn gallu bodloni ein huchelgeisiau ar gyfer twf cynaliadwy’r sector, gan fod yn sail i wytnwch ariannol ein ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig, ochr yn ochr ac mewn cytgord gyda’n rhwymedigaethau a’n huchelgeisiau amgylcheddol ac ar gyfer yr hinsawdd. Cyllideb o dros £500m y flwyddyn gyda chyfran helaethaf o’r ariannu’n cael ei gyfeirio at ddarparu sefydlogrwydd a chefnogi cynhyrchiant ac enillion effeithiolrwydd ar fferm.

£9.3 biliwn yw trosiant sector y sefydliad bwyd yng Nghymru

228,500 wedi-u cyflogi ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru

Polisïau amaethyddol sy’n sylfaen i fwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau

Mae NFU Cymru yn glir y dylai dyfodol polisi amaethyddol fod yn  sylfaen i gynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd ffermio, ein cymunedau, ein tirwedd, ein hiaith a’n diwylliant ar gyfer ein cenhedlaeth ni a rhai fydd yn dilyn ôl ein traed. Mae’n rhaid i lywodraeth nesaf Cymru sicrhau bod polisïau’n cefnogi buddsoddiad ar ffermydd ac yn darparu o leiaf yr un lefel o sefydlogrwydd i fusnesau fferm, ein cymunedau gwledig a’r gadwyn gyflenwi ag y mae’r Cynllun Tâliad Sylfaenol wedi’i wneud. 

Dros 50,000 wedi-u cyflogi ar ffermydd yng Nghymru

Cyllideb aml-flynyddol wedi’i chlustnodi i gefnogi twf cynaliadwy bwyd a ffermio yng Nghymru

Mae’n rhaid i’r llywodraeth nesaf ymrwymo i ddarparu cyllideb sydd wedi’i chlustnodi, ac yn aml-flynyddol er mwyn gallu bodloni ein huchelgeisiau ar gyfer twf cynaliadwy’r sector, gan fod yn sail i wytnwch ariannol ein ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig, ochr yn ochr ac mewn cytgord gyda’n rhwymedigaethau a’n huchelgeisiau amgylcheddol ac ar gyfer yr hinsawdd. Cyllideb o dros £500m y flwyddyn gyda chyfran helaethaf o’r ariannu’n cael ei gyfeirio at ddarparu sefydlogrwydd a chefnogi cynhyrchiant ac enillion effeithiolrwydd ar fferm.

Photograph of a dry stone wall
Table with Welsh produce
Tractor with slurry spreader
Ewe and lamb

Ymrwymiad i gaffael swmp cynyddol o gynnyrch ffermwyr Cymru mewn i’r sector gyhoeddus

Gall y llywodraeth nesaf gefnogi ffermio yng Nghymru drwy sicrhau bwyd o Gymru sy’n blasu’n ardderchog, sy’n iach a maethlon ac sy’n gynaliadwy yn cael ei weini yn ein hysbytai, ein hysgolion ac ar hyd a lled y sector cyhoeddus. 

Sefydlu grŵp adolygu annibynnol er mwyn ystyried baich cynyddol rheoliadau a pholisïau ar ffermio yng Nghymru

Un o’r gweithredoedd cyntaf y mae’n rhaid i Lywodraeth newydd yng Nghymru ei gymryd yw comisiynu Grŵp Adolygu Annibynnol er mwyn ystyried baich cynyddol rheoliadau tâp coch a biwrocratiaeth sy’n wynebu’r sector amaeth, gyda golwg ar adnabod biwrocratiaeth ddianghenraid, heb bwrpas ac sy’n gorgyffwrdd a’i ddiddymu. Mae angen i adolygiad o’r fath fod yn uchelgeisiol ac yn hollgynhwysol gan annog a chefnogi fframwaith rheoleiddio cynllunio ar gyfer ffermio yng Nghymru sydd yn galluogi

Ymagwedd at ansawdd dŵr a arweinir gan wyddoniaeth a thystiolaeth

Mae NFU Cymru yn cydnabod y rôl sydd gan ffermwyr i’w chwarae wrth gynnal a gwella ansawdd dŵr yng Nghymru, ond mae gennym bryderon hirfaith ynghylch a’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Mae’n offeryn di-fin, yn aneffeithiol a biwrocrataidd gyda chostau uchel i amaethyddiaeth a chanlyniadau anfwriadol i’r amgylchedd. Mae adolygiad o’r rheoliadau wedi methu â deall sefyllfa druenus ffermwyr yng Nghymru sy’n brwydro gydag anymarferoldeb a chymhlethdod y rheoliadau.

Nid yw dull ffermio yn ôl calendr yn gweithio ac mae’n rhaid cyflwyno rhan-ddirymiad i’r cyfyngiad 170 kg nitrogen organig / hectar y gellid gweithio gydag o er mwyn diogelu cyflogaeth ar y fferm ac o fewn y gadwyn gyflenwi. Mae angen newid deddfwriaethol ar frys, gan fynd i’r afael â’r agweddau mwyaf heriol fel eu bod yn gymesur ac yn rhai sy’n targedu er mwyn mynd i’r afael gyda phroblemau ansawdd dŵr lle dangosir bod eu hangen.

Gwella Bioddiogelwch ar y ffin

Mae afiechydon egsotig, gan gynnwys clwy’r traed a’r genau a chlwy Affricanaidd y moch yn cylchredeg ar gyfandir Ewrop. Ni fyddai ymlediad afiechyd hysbysedig ond yn gallu digwydd drwy dramgwydd bioddiogelwch, ac yng Nghymru, mae bioddiogelwch ar y ffin yn ein porthladdoedd yn gyfrifoldeb datganoledig i Weinidogion Cymru.

Rydym yn edrych at Lywodraeth Cymru er mwyn bod yn wyliadwrus a sicrhau ein bod bob amser yn cadw’r lefel uchaf bosib o safonau gorfodi bioddiogelwch ym mhob porthladd sy’n rhoi mynediad i Gymru, a sicrhau bod gan yr holl gyrff hynny sydd â’r cyfrifoldeb o gadw afiechydon egsotig allan o Gymru, yr adnoddau priodol.  Bydd methu â gwneud hynny yn cael effaith ddinistriol nid yn unig ar fusnesau fferm unigol ond ar gyfer y wlad gyfan.

Welsh produce on a table

Sheep and lambs in a field

Strategaeth go iawn ar gyfer dileu diciâu mewn gwartheg ar gyfer Cymru

Cafodd dros 13,000 o wartheg eu difa yng Nghymru yn 2024 oherwydd diciâu mewn gwartheg, ystadegyn gwirioneddol ddychrynllyd, cynnydd o 27% o’r flwyddyn flaenorol, sy’n cynrychioli’r rhif mwyaf erioed o wartheg sydd wedi’u difa oherwydd y diciâu yng Nghymru dros unrhyw gyfnod o 12 mis.  Mae’r ffigyrau hyn yn creu darlun sobreiddiol o’r ing dirdynnol a brofir gan deuluoedd sy’n ffermio ar hyd a lled Cymru ac a effeithir gan ardrawiad hynod niweidiol yr afiechyd hwn.

Nid ydym yn gallu parhau ar y trywydd hwn, os yw’r genhedlaeth nesaf i gael unrhyw obaith o ffermio yng Nghymru heb fod dan fygythiad diciâu mewn gwartheg, yna mae’n rhaid i rywbeth newid.  Rydym angen i Lywodraeth nesaf Cymru roi strategaeth gynhwysfawr ar gyfer dileu’r diciâuar waith sy’n mynd i'r afael yn weithredol gyda’r afiechyd a’r holl ffyrdd y caiff ei drosglwyddo .

Mae tystiolaeth glir bod cyswllt rhwng y diciâu mewn bywyd gwyllt, yn fwyaf nodedig, moch daear a gwartheg. Mae cydnabyddiaeth ryngwladol o fod yn rhydd o’r diciâu yn galw nid yn unig am oruchwyliaeth ofalus o wartheg a mesurau rheoli ond hefyd mesurau i atal trosglwyddiad yr haint o fywyd gwyllt.

Mae’r diciâu mewn gwartheg yn afiechyd cymhleth ac os ydym fyth i gael gobaith o’i waredu, mae’n rhaid i ni ddefnyddio strategaeth holistig sy’n cael ei harwain yn epidemiolegol ac sydd wedi’i thargedu, un sy’n rhoi’r ymyrraeth gywir ar waith yn y ffordd gywir ac ar yr adeg gywir, wedi’i harwain gan y darlun ar lawr gwlad, a chan dargedu’r afiechyd ble bynnag y mae’n bodoli.  Yn y cyd-destun hwn, mae perchnogaeth leol o ddatrysiadau’n allweddol.

Mae gwaith ymchwil diweddar o’r rhaglen ddifa yn Lloegr wedi dangos gostyngiad o 56% o ran achosion mewn buchesi yn y bedwaredd flwyddyn, ac mae’r gostyngiad hwn mewn haint yn eithriadol o drawiadol , ac ni ellir ei anwybyddu. Ochr yn ochr â rhaglen ddifa, mae gan frechu moch daear rôl i’w chwarae, yn arbennig felly yn rhannau o Gymru lle nad yw’r afiechyd yn endemig mewn bywyd gwyllt.   Yn ogystal, mae gan fioddiogelwch da ran eithriadol o bwysig i’w chwarae, ac ni ellir gorbwysleisio ei fuddion ar gyfer 95% o’r buchesi sy’n rhydd o’r diciâu yng Nghymru.  

Mae achosion fferm o’r diciâu, yn ogystal ag achosi straen emosiynol anferthol ar deuluoedd sy’n ffermio, hefyd yn arwain at bwysau ariannol sylweddol iawn.  Mae NFU Cymru yn parhau i bwysleisio mai’r unig ffordd deg i brisio gwartheg sy’n cael eu difa’n orfodol gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r diciâu  mewn gwartheg, yw drwy system o brisio unigol.

Cows in a field
Cows in a field

Mabwysiadu bridio manwl er mwyn rhoi hwb i gynhyrchu bwyd sy’n hinsawdd gyfeillgar

Nid yw biodechnoleg yn ateb yr holl heriau rydym yn eu hwynebu, ond gallai cael mynediad at dechnegau bridio manwl ar gyfer ein cnydau a’n da byw gynnig amrywiaeth o fuddion i Gymru. 

Er enghraifft, gallai golygu genynnau helpu i gynnal cynhyrchu bwyd sy’n  gyfeillgar i’r hinsawdd drwy fynd i’r afael â phwysau gan blâ ac afiechydon ar gnydau ac anifeiliaid fferm, gan wella iechyd a lles anifeiliaid, a chan alluogi gwell defnydd o fewnbynnau ac adnoddau ar y fferm a chynyddu gwytnwch cnydau i ddigwyddiadau tywydd eithriadol, megis llifogydd a sychder.

Mae Cymru wedi bod ar y blaen o ran bridio planhigion ers canrif a mwy, ac rydym angen i’r Senedd a Llywodraeth Cymru nesaf sicrhau bod Cymru’n gallu gwireddu’r buddion o dechnegau bridio manwl newydd.  

Welsh Black Cattle

Diddymu’r Panel Cynghori ar amaethyddiaeth

Sefydlwyd Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn dilyn diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2013. Nid oes gan unrhyw sector arall drefniant o’r fath yn ei le, ac mae NFU Cymru yn glir bod rôl bwrdd panel cynghori yn ddibwys o ganlyniad i ddatblygiadau megis yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, y Cyflog Byw Cenedlaethol, Rheoliadau Amser Gweithio ac amddiffyniadau deddfwriaethol eraill. Nid yw’r cymhlethdod ychwanegol o orchymyn cyflogau yn ofynnol yng Nghymru.

Mae’n rhaid i brosiectau isadeiledd graddfa fawr ddiogelu ein tirweddau a pheidio ag effeithio ar iechyd meddwl a lles cymunedau mewn ffordd negyddol

Ni ddylid cymryd yn ganiataol y dylai tir amaethyddol gael ei aberthu ar gyfer prosiectau isadeiledd graddfa fawr. Mae prosiectau cysylltu graddfa fawr yn bygwth harddwch a thirwedd nifer o ardaloedd yng Nghymru, gwerth hanesyddol ac amwynder yr ardaloedd yn ogystal â bygwth iechyd meddwl a lles y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn nhalgylch y prosiectau hyn. Mae technolegau yn ymwneud â thanddaearu ceblau wedi symud ymlaen yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n rhaid i hynny ddod yn arfer safonol ar gyfer prosiectau cysylltu presennol a rhai arfaethedig. 

Farmers stood in front of their sheep

Gosod teuluoedd ffermio Cymru wrth wraidd polisi gwledig

Mae yna yn awr sawl math o bwysau cystadleuol o ran y defnydd a wneir o dir yng Nghymru. Mae NFU Cymru am weld agwedd gytbwys tuag at y newid yn y defnydd a wneir o’r tir, sy’n ystyried effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol hirdymor newid o’r fath. Mae’n rhaid i’r newid o ran y defnydd o’r tir beidio â chael ei wneud ar draul cynhyrchu bwyd neu ddarnio a dinistrio ein cymunedau gwledig.